Dirwasgiad Mawr 2008-2012

Dirwasgiad Mawr 2008-2012
Enghraifft o'r canlynoldirwasgiad Edit this on Wikidata
Dyddiad2000s, 2010s Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
     Gwledydd mewn dirwasgiad swyddogol (am ddau chwarter ar ôl ei gilydd)      Gwledydd mewn dirwasgiad answyddogol (un chwarter)      Gwledydd gyda dirywiad o 1% neu fwy yn eu heconomi      Gwledydd gyda dirywiad o 0.5% neu fwy yn eu heconomi      Gwledydd gyda dirywiad o 0.1% neu fwy yn eu heconomi      Gwledydd lle mae eu heconomi'n tyfu      N/A Rhwng 2007 a 2008, fel amcangyfrifon gan yr IMF (International Monetary Fund)
Twf GDP gwledydd y Byd, 2009; mae'r gwledydd mewn brown mewn dirwasgiad.

Yn ystod 2008–2011 fe ddirywiodd economi'r byd i lefelau nas gwelwyd erioed cyn hynny. Yn ystod yr amser yma, a elwir yn argyfwng economaidd 2008-presennol (Saesneg: The Great Recession), cafwyd gostyngiad sylweddol mewn prisiau tai ac eiddo, gostyngiad ym marchnadoedd stoc y byd a nifer o fanciau yn mynd i'r wal.[1][2] Un o'r mesurau a gymerwyd yng ngwledydd y Gorllewin i geisio atal yr argyfwng oedd lliniaru meintiol.

Caiff economi gwlad ei alw'n "argyfwng economaidd" pan fo gwlad mewn dyled neu ddiffyg o ran ei GDP am ddau chwarter ar ôl ei gilydd. Parodd yr argyfwng, yn ôl y diffiniad hwn rhwng Q4-2011 hyd at Q2-2012 (9 mis).[3]

Ar ddechrau'r argyfwng cafwyd sawl cyhoeddiad negyddol am system forgais Unol Daleithiau America; deilliodd yr argyfwng o'r hyn a elwid yn 'fenthyg tocsig', sef trachwant cwmniau i wneud elw ac i roi morgeisi i bobl nad oeddent yn medru fforddio ei dalu'n ôl. Ymledodd yr argyfwng tai hwn a elwid yn Subprime mortgage crisis drwy'r byd. Dyma gychwyn y dirwasgiad byd-eang. Gwelwyd pris olew yn dyblu mewn ychydig fisoedd ychydig cyn hyn, ac yna yn ôl i tua $85 y gasgen yn Medi 2008. Gwelwyd hefyd diweithdra'n codi drwy'r byd a dyblodd rhwng Mehefin a Chwefror 2009 yng Ngwledydd Prydain - o 1 miliwn i tua dwy filiwn o bobol.

O ganol 2008 ymlaen cafwyd hefyd argyfwng global ceir a ddeilliodd (unwaith eto) yn America, ac yna yn Ewrop a Japan. Aeth pethau'n ddrwg iawn ar General Motors yn Ebrill a Mai 2009. Syrthiodd incwm cyfartalog teuluoedd UDA 35%: o $106,591 yn 2005 i $68,839 yn 2011.[4]

  1. (Saesneg) Gweler llyfr Fred E. Foldvary: [1] Archifwyd 2009-01-14 yn y Peiriant Wayback. 'The Depression of 2008' gan The Gutenberg Press, isbn 0-9603872-0-X Medi 18, 2007.
  2. (Saesneg) [2] 'A Global Breakdown Of The Recession In 2009' gan Nouriel Roubini; 15 Ionawr 2009
  3. Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol; DU; adalwyd 18 Tachwedd 2014
  4. Kurtzleben, Danielle (23 Awst 2014). "Middle class households' wealth fell 35 percent from 2005 to 2011". Vox.com. Cyrchwyd 13 Medi 2014.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search